Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (213)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (90 munud)
|
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Y Cynllun Gweithredu Sgiliau (30 munud)
Dogfennau Ategol |
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Archwiliadau Dirybudd mewn Ysbytai (30 munud)
|
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi: Cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (45 munud)
Dogfen Ategol Creu Cymunedau Cryf: Symud Ymlaen â’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi
|
7 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2014 - Gohiriwyd
|
8 Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2014-15 (30 munud) NDM5541 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 24 Mehefin 2014. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfen Ategol |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 16 Gorffennaf 2014